Dugiaeth Milan
Dugiaeth Milan Eidaleg: Ducato di Milano Lladin: Ducatus Mediolani | ||||||
Tiriogaeth wrogaethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (1395–1499; 1512–1515; 1521–1540) Tiriogaeth goron Teyrnas Ffrainc (1499–1512; 1515–1521) Talaith yr Ymerodraeth Lân Rufeinig dan reolaeth Hapsbwrgiaid Sbaen (1556–1707) Tiriogaeth goron y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (1707–1795) | ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Dugiaeth Milan ym 1494.
| ||||||
Prifddinas | Milan | |||||
Ieithoedd | Lombardeg, Eidaleg | |||||
Crefydd | Yr Eglwys Gatholig Rufeinig | |||||
Political structure | Tiriogaeth wrogaethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (1395–1499; 1512–1515; 1521–1540) Tiriogaeth goron Teyrnas Ffrainc (1499–1512; 1515–1521) Talaith yr Ymerodraeth Lân Rufeinig dan reolaeth Hapsbwrgiaid Sbaen (1556–1707) Tiriogaeth goron y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (1707–1795) | |||||
Dug | ||||||
- | 1395–1402 | Gian Galeazzo Visconti (cyntaf) | ||||
- | 1792–1796 | Ffansis II (olaf) | ||||
Cyfnod hanesyddol | Yr Oesoedd Canol Diweddar, Y cyfnod modern cynnar | |||||
- | Tystysgrif ymerodrol oddi ar Wenceslaus, Brenin y Rhufeiniaid | 1 Mai 1395 | ||||
- | Y Weriniaeth Ambrosaidd | 1447–1450 | ||||
- | Meddiannwyd gan Ffrainc | 1499–1512, 1515–1522 and 1524–1525 | ||||
- | Dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg | 1535–1796 | ||||
- | Dan reolaeth Sbaen | 1556-1700 | ||||
- | Cyfeddiannwyd gan y Weriniaeth Drawsbadanaidd | 15 Tachwedd 1796 | ||||
Arian cyfred | Sgwdo Milan, lira a soldo | |||||
Heddiw'n rhan o | Yr Eidal Y Swistir |
Dugiaeth yng ngogledd yr Eidal ac un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Dugiaeth Milan. Sefydlwyd ym 1395 gan Gian Galeazzo Visconti, Arglwydd Milan, a dderbyniodd dystysgrif ymerodrol oddi ar Wenceslaus, Brenin y Rhufeiniaid.[1] Roedd ei diriogaeth pryd hynny yn cwmpasu 26 o drefi a chefn gwlad Gwastatir Padana i ddwyrain bryniau Monferrato. Am y rhan fwyaf o'i hoes, roedd Dugiaeth Milan yn ffinio â Safwy i'r gorllewin, Gweriniaeth Fenis i'r dwyrain, Cydffederasiwn y Swistir i'r gogledd, a Gweriniaeth Genoa i'r de.
Bu'r ddugiaeth dan reolaeth Tŷ Visconiti nes 1447, pryd sefydlwyd y Weriniaeth Ambrosaidd wedi i'r Dug Filippo Maria Visconti farw heb etifedd. Gorchfygwyd Milan ym 1450 gan Francesco Sforza, a ddatganodd ei hun yn Ddug Milan. Goresgynnwyd y ddugiaeth ym 1499 gan luoedd Teyrnas Ffrainc i hawlio'r diriogaeth yn enw'r Brenin Louis XII. Adferwyd Tŷ Sforza yn Nugiaeth Milan gyda chymorth y Swisiaid ym 1512, ac eto ym 1521 gan Hapsbwrgiaid Awstria. Rhoddwyd y ddugiaeth i Felipe II, brenin Sbaen, ym 1556, gan ei dad Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a bu dan reolaeth Hapsbwrgiaid Sbaen am 150 mlynedd bron.
Goresgynnwyd y ddugiaeth gan luoedd Awstria ym 1701 ar ddechrau Rhyfel Olyniaeth Sbaen, a rhoddwyd i'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn swyddogol yn ôl Cytundeb Milan (1707). Bu dan reolaeth Awstria nes ymgyrch Napoleon Bonaparte yno ym 1796, ac yn sgil Cytundeb Campo Formio (1797) diddymwyd y ddugiaeth a throsglwyddwyd ei thiriogaeth i Weriniaeth Is yr Alpau, un o chwaer-weriniaethau Ffrainc. Yn sgil cwymp Napoleon a Chynhadledd Fienna (1815), daeth y gyn-ddugiaeth yn rhan o Deyrnas Lombardia a Veneto ac felly yn rhan o Ymerodraeth Awstria.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jane Black, Absolutism in Renaissance Milan. Plenitude of power under the Visconti and the Sforza 1329–1535 (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), tt. 68–72.
- Dugiaeth Milan
- 14eg ganrif yn yr Eidal
- 15fed ganrif yn yr Eidal
- 16eg ganrif yn yr Eidal
- 17eg ganrif yn yr Eidal
- 18fed ganrif yn yr Eidal
- Y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd
- Cyn-ddugiaethau
- Gwladwriaethau a thiriogaethau a sefydlwyd ym 1395
- Gwladwriaethau a thiriogaethau a ddadsefydlwyd ym 1797
- Hanes Lombardia
- Taleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig